|
||
|
Gwefannau'r DU a Gynhelir yn Archif UKWAC yn UnigRhestrir y gwefannau nad oeddynt ar gael ar eu URL gwreiddiol, neu a oedd ar goll o'r Rhygnrwyd 'fyw', pan y'u chwiliwyd gan UKWAC, yn yr adroddiad hwn. Mae hefyd yn rhestru gwefannau nad oeddynt ar gael ar y pryd pan aed at yr URL. Mae'n bosibl mai anhawsterau technegol dros dro oedd achos hyn, ond eu bod ar gael eto bellach. Defnyddir codau penynnau ymateb yn yr adroddiad hwn er mwyn asesu argaeledd gwefannau. Codau gwallau 'ar goll', 'wedi symud' ac 'heb fod ar gael' yn unig a adroddir. Ni adroddir ymatebion 'tawel' neu lwyddiannus yma. Tueddir defnyddio adroddiadau 404 mewnol gan rai gwefannau. Golyga hyn fod yr URL dechreuol ar gael o hyd, ond na ellir canfod isdudalen, is-safle, neu gasgliad o dudalennau. Fe'u dosberthir hwy fel 404 yn yr adroddiad hwn, ond fe'u nodir fel 404 Mewnol. Os ydych yn berchen ar wefan, ac yn credu ein bod wedi adrodd statws eich safle yn anghywir, cysylltwch â ni. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau pellach ynglyn â'r adroddiad, hefyd. Ein cyfeiriad e-bost yw Info@webarchive.org.uk
Gellir gweld adroddiad mis Medi 2005 yma, (PDF 88kb). Gellir gweld adroddiad mis Medi 2006 yma, (PDF 134kb). Bydd fersiynau HTML o'r adroddiadau hyn ar gael yn fuan. Gellir llwytho Darllenydd Adobe® Acrobat® i lawr yma.
|
||||||||
|