Skip to main content
Hafan yr Archif
Cysylltu â ni
Ynglŷn ag UKWAC
Ynglŷn â'r Archif
Newyddion
Dolenni
Map o'r Safle
 

Casgliadau

Mae Archif UKWAC yn cynnwys rhai Casgliadau o wefannau a ddewiswyd fel set er mwyn ychwanegu dyfnder i'n triniaeth o'r canlynol:

  • digwyddiad, neu hanes yn y newyddion
  • (er enghraifft, Etholiad Cyffredinol 2005 neu'r Ymosodiad Terfysgol ar Lundain ar y 7fed o Orffennaf)

  • neu bwnc mwy cyffredinol
  • (megis Pynciau sy'n ymwneud â Merched ac America Ladin yn y DU)

Nod y Consortiwm yw ychwanegu gwerth at ein Harchif – a bydd y Casgliadau hyn yn darparu adnodd werthfawr i ymchwilwyr heddiw a'r dyfodol.

Dilynwch y dolenni isod er mwyn mynd at restr llawn o'r gwefannau a gynhwyswyd ym mhob casgliad. Rhestrir y gwefannau ar wahân dan eu penawdau pwnc penodol, hefyd.

Pynciau sy'n Ymwneud â Merched

Canolbwyntia'r casgliad hwn o wefannau ar wragedd a merched yn y DU. Mae'n cynnwys gwefannau personol, fel blogiau; e-gylchgronnau sy'n canolbwyntio ar ferched; gwefannau sefydliadau a grŵpiau ymgyrchu i ferched; adroddiadau ymchwil; cyhoeddiadau'r llywodraeth ac ystadegau sy'n ymwneud â merched.

America Ladin yn y DU

Casgliad o wefannau a gynhyrchwyd gan gymunedau America Ladin y DU, neu gan sefydliadau sydd â chysylltiadau uniongyrchol â'r cymunedau hynny a'r ardal honno, yw hwn. Mae'r safleoedd yn y casgliad hwn yn cynnwys elusennau; grŵpiau addysg a chefnogaeth; ymgyrchoedd er cydgefnogaeth; cymdeithasau Eingl-America Ladin; gwasanaethau newyddion a gwybodaeth ar gyfer pobl o America Ladin sy'n byw yn y DU; cyrff masnachol a diwylliannol a digwyddiadau unigryw.

Ffliw Pandemig a Ffliw Adar

Cychwynnwyd ar y casgliad hwn o wefannau er mwyn gwneud cynlluniau wrth gefn rhag ofn y ceid unrhyw achosion o Ffliw'r Adar neu Ffliw Pandemig yn y DU. Mae'r casgliad yn cynnwys safleoedd a gynhyrchwyd gan y Llywodraeth sy'n darparu cyngor i'r cyhoedd, yn ogystal â newyddion a sylwebaeth.

Cefn Gwlad Prydain

Dewiswyd y gwefannau o fewn y casgliad hwn o amgylch thema Cefn Gwlad Prydain, gan anelu at ddarparu adlewyrchiad o ystod eang o faterion sy'n ymwneud â chefn gwlad, megis economi wledig; yr amgylchedd; bywyd gwyllt; celf; hanes a gwleidyddiaeth. Mae'r safleoedd yn cynrychioli sefydliadau sy'n cynnwys grŵpiau bywyd gwyllt; melinau trafod academaidd; ymgynghrwyr amaethyddol; grŵpiau cefn gwlad cenedlaethol; grŵpiau ymgyrchu a Byrddau Croeso.

Bywydau Digidol

Dewiswyd y gwefannau hyn er mwyn dangos twf cynnwys digidol personol ar y Rhyngrwyd. Wrth i dechnoleg ddatblygu'n fwy hygyrch, mae gan unigolion y modd i olygu, cadw a dosbarthu deunydd personol, gan fwydo tuedd gynyddol tuag at greadigrwydd digidol. Mae'r casgliad yn dangos y gwhanol ffurfiau ar yr allbwn hwn, gan gynnwys blogiau; erthyglau; portffolios o waith; recordiadau sain a llun.

Etholiad Cyffredinol y DU, 2005

Casgliad o wefannau â chynnwys etholiadol, a archifwyd yn ystod etholiad Cyffredinol y DU yn 2005, ac yn syth ar ei ôl, yw hwn. Mae'r casgliad yn cynnwys sampl o wefannau ymgyrchu a blogiau'r ymgeiswyr; safleoedd pleidiau lleol a chenedlaethol; polau piniwn; newyddion a sylwebaeth a maniffestos gan ystod o grŵpiau cysylltiedig.

Ymosodiad ar Lundain gan Derfysgwyr, 7fed o Orffennaf 2005

Dyma gasgliad o wefannau gyda chynnwys sy'n ymwneud â'r ymosodiadau terfysgol a welwyd yn Llundain ar y 7fed o Orffennaf 2005, a ddechreuwyd yn syth ar ôl y digwyddiad. Mae'r casgliad yn cynnwys newyddion a sylwebaeth; gwybodaeth i'r cyhoedd a chefnogaeth i ddioddefwyr; a blogiau a ysgrifennwyd gan y rheiny a brofodd y bomiau'n uniongyrchol.

Trychineb Tswnami Cefnfor yr India, Rhagfyr 2004

Mae'r casgliad hwn o wefannau'n dogfennu effeithiau a chanlyniadau trychineb y tswnami a welwyd ar 26 Rhagfyr 2004 yn Asia, a'r ymateb i'r drychineb honno. Cynnwys y casgliad wefannau elusennau a chyrff cymorth; gwefannau a sefydlwyd er mwyn codi arian at yr achos; safleoedd a sefydlwyd er mwyn cadw cofnod o brofiadau personol ac ymatebion cymunedau crefyddol i'r digwyddiad.

Teithio

Casgliad o wefannau a ddewiswyd am eu bod yn ymwneud â theithio yn y DU, gyda'r nod o adlewyrchu ystod eang o faterion cysyllteidg, megis trafnidiaeth; twristiaeth yn y DU a'r diwydiant teithio.



I fyny ˆ
© hawlfraint UKWAC - Cedwir pob hawl
Skip to side navigation