|
||
|
Datganiad Hawlfraint/Gwadiad ar gyfer UKWAC/PandoraDatganiad HawlfraintMae'r wybodaeth a ddelir yn archif Consortiwm Archifo'r We y DU ar gadw trwy ganiatâd deiliaid yr hawlfraint. Cedwir yr hawlfraint dros y deunydd hwn, yn ei holl ffurfiau, o fewn Archif PANDORA ac ar eu gwefannau byw, gan awduron a/neu gyhoeddwyr y gwefannau. Rhaid ichi gysylltu â deiliaid yr hawlfraint a cheisio'u caniatâd os ydych am gopïo unrhyw ddeunydd a gynhwysir o fewn yr archif. Gellir canfod dolen at ddatganiad hawlfraint pob cyhoeddwr (a ddarparwyd) o fewn yr archif. GwadiadNid yw cynhwysiad unrhyw wefan fel rhan o archif Consortiwm Archifo'r We y DU yn golygu y cefnoga Consortiwm Archifo'r We y DU na'i bartneriaid yr wybodaeth a gynhwysir o fewn y safleoedd hynny, nac unrhyw sefydliad a gyhoeddodd y deunydd hwnnw. Ni adlewyrcha unrhyw wybodaeth, barn, cyngor, datganiadau, gwasanaethau, cynigion neu gynnwys a fynegir neu a gynigir gan y cynhyrchwyr hynny safbwynt na chefnogaeth Consortiwm Archifo'r We y DU, na'i bartneriaid, o reidrwydd. Nid yw Consortiwm Archifo'r We y DU na'i bartneriaid yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys unrhyw ddeunydd a archifir, nac unrhyw defnydd a wneir o'r deunydd hwnnw. |
||||||||
|