|
||
|
Consortiwm Archifo'r We y DUTrosolwg o'r ProsiectY we yw prif ffynhonnell wybodaeth y rhan fwyaf o bobl erbyn hyn. Dyma'r arf o ddewis ar gyfer canfod pob math o ffeithiau, o gadw gyda'r blaenaf gyda'r newyddion diweddaraf, a chael mynediad at ddyddlyfrau a setiau data, i ddarganfod mwy am deithio a chwaraeon. Fodd bynnag, er ein bod i'n gweld yn dibynnu ar y cyfrwng hwn, ni thalwyd llawer o sylw i gadwraeth hirdymor gwefannau hyd yma. Yn wir, gydag amcangyfrif o 44 diwrnod wedi ei bennu ar gyfer bywyd gwefan cyfartalog (tua'r un hyd oes â chleren), mae yna berygl na fydd adnoddau ysgolheigaidd, diwylliannol a gwyddonol amhrisiadwy ar gael i genedlaethau'r dyfodol. Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon, mae consortiwm o chwech o brif sefydliadau'r DU yn gweithio gyda'i gilydd ar brosiect, gan ddatblygu mainc arbrofi ar gyfer archifo detholus o wefannau'r DU. Gellir gweld llinell amser y prosiect yma. Bydd aelodau'r consortiwm yn archifo gwefannau sy'n berthnasol i'w diddordebau unigol (unwaith y derbynnir y caniatâd priodol gan berchnogion y gwefannau) gan ddefnyddio meddalwedd PANDAS a ddatblygwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Awstralia. Er enghraifft, bydd Llyfrgell Wellcome yn canolbwyntio ar gasglu safleoedd meddygol, tra bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn casglu safleoedd sy'n adlewyrchu bywyd y Gymru gyfoes. Bydd y Llyfrgell Brydeinig yn ffocysu ar safleoedd o werth diwylliannol, hanesyddol a gwleidyddol. Unwaith yr archifir a chatalogir safleoedd, ac y sicrheir eu bod yn gyflawn, darperir mynediad atynt trwy'r wefan hon. Bydd defnyddwyr yn medru pori'r archif gan ddefnyddio penawdau pwnc cyffredinol, neu chwilio am safleoedd a thestunau penodol. Gellir gweld mwy o wybodaeth am archifo'r We yn y ddau adroddiad a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome a JISC, ac a arweiniodd at ddatblygu UKWAC. Ewch at archif PANDORA, a ddatblygwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Awstralia, er mwyn gweld enghraifft o sut gall yr archif edrych a gweithio. Mae gan bartneriaid Consortiwm Archifo'r We y DU gatalogau sy'n darparu mynediad at eu casgliadau eisoes. Gellir gweld rhestr o gatalogau'r llyfrgelloedd yma. |
||||||||
|