|
|
|

Aelodau'r Consortiwm
Trosolwg
Mae nifer o sefydliadau allweddol y DU wedi ymuno i ffurfio Consortiwm (UKWAC), gyda'r nod o rannu'r costau, yr arbenigedd a'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer archifo gwefannau a ddewiswyd, er mwyn darparu mynediad atynt yn y dyfodol. Cred y sefydliadau sy'n ffurfio'r Consortiwm hwn bod digon o gysondeb yn anghenion busnes archifo'r we i gynnal amgylchedd weithredol ar gyfer y broses o archifo'r we.
Cred cyrff cydweithredol y DU y gellir rhannu profiad, risgiau a chostau trwy sefydlu prosiect ar y cyd sydd â threfn lywodraethol a rheolaeth prosiect briodol, gan leihau'r pwysau ar unrhyw un sefydliad.
Aelodau UKWAC
- Y Llyfrgell Brydeinig (Prif bartner)
- Yr Archifau Gwladol
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol yr Alban
- JISC
- Ymddiriedolaeth Wellcome
|