|
||
|
Archif gwe'r DU – nawr ar-lein09 Mai 2005Mae rhan gyntaf yr archif chwiliadwy o Wefannau – a ddewiswyd o ganlyniad i'w gwerth ysgolheigaidd, diwylliannol a gwyddonol – nawr ar gael ar http://www.webarchive.org.uk. Anelir yr archif, a ddatblygwyd gan Gonsortiwm Archifo'r We y DU (UKWAC), at y gymuned ymchwil yn gyffredinol, gan nodi'r ymgais systematig gyntaf i greu archif o ddeunydd gwe, o barth y DU, sy'n arwyddocaol yn gymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol. Gan fod llawer o'r deunydd sydd ar y we yn fregus, yn ddarfodedig ac yn dueddol o ddiflannu'n sydyn, mae'n bwysig ei archifo. Yn wir, caiff gwybodaeth hanesyddol o bwys ei ddisodli gan wybodaeth newydd, neu ei symud yn gyfan gwbl, yn aml. Mae UKWAC – sy'n cynnwys Y Llyfrgell Brydeinig, Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth y Cynghorau Addysg Uwch a Phellach (JISC), Yr Archifau Gwladol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban ac Ymddiriedolaeth Wellcome – yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, a rhannu'r cyfrifoldeb dros gasglu deunydd sydd ar y we. Un o brif amcanion y prosiect dwy flynedd, y tu hwnt i hyn, yw diffinio methodoleg a mesurau cynaliadwy ar gyfer cadw'r data digidol cynhenid hwn. Mae'r prosiect wedi bod yn archifo deunydd ers chwe mis, ac, erbyn hyn, mae'r archif yn cynnwys 299 o deitlau a 1090 o wefannau unigol. Casglwyd 84 GB o ddata, a ellir ei chwilio a'i weld i gyd trwy'r archif ar-lein, hyd yma. Dewisir ac archifir safleoedd gan bob aelod o'r Consortiwm yn unigol, yn ôl yr hyn sy'n sy'n berthnasol i'w diddordebau pynciol. Er enghraifft, mae Ymddiriedolaeth Wellcome yn ffocysu ar gadw cofnodion o waith meddygol sydd ar y we, tra bod Yr Archifau Gwladol wedi archifo deunydd dethol o chwe phrif glwstwr o adrannau'r llywodraeth, megis Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog (gweler: http://www.webarchive.org.uk/tep/10150.html). Archifwyd safleoedd sy'n adlewyrchu diwylliant cenedlaethol a digwyddiadau sy'n hanesyddol bwysig gan y Llyfrgell Brydeinig, megis safleoedd sy'n ymwneud â'r Tswnami diweddar yng Nghefnfor India, ac ymateb Prydain i'r digwyddiad (gweler: http://www.webarchive.org.uk/col/c8050.html). Defnyddir meddalwedd PANDAS/Pandora, a ddatblygwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Awstralia, gan UKWAC ar gyfer y gwaith archifo. Addaswyd y feddalwedd gan Ymchwil Magus Cyf, sydd hefyd yn gwesteia'r gwasanaeth ac yn darparu cefnogaeth dechnegol a chaledwedd cyfrannol, er mwyn i UKWAC fedru ei ddefnyddio yn y DU. Gellir cael mynediad at yr archif ar: http://www.webarchive.org.uk Am fwy o wybodaeth:
|
||||||||
|