Skip to main content
Hafan yr Archif
Cysylltu â ni
Ynglŷn ag UKWAC
Ynglŷn â'r Archif
Newyddion
Dolenni
Map o'r Safle
 

Cipio Rhyfeddodau'r We am Byth…

Hybu hyd oes deunydd allweddol ar y we trwy lansio Consortiwm Archifo'r We y DU

21 Mehefin 2004

Ehangu hyd oes deunydd ar y we o ryw 44 diwrnod (yr un disgwyliad oes â chleren) i ganrif a mwy - dyna nod Consortiwm Archifo'r We y DU (UKWAC), a lansiwyd heddiw. Bydd UKWAC, sy'n cynnwys chwech o brif sefydliadau'r DU, yn gweithio ar system arbrofol i archifo gwefannau allweddol dethol o'r DU, gyda chaniatâd deiliad hawlfraint – gan sicrhau y bydd adnoddau ysgolheigaidd, diwylliannol a gwyddonol amhrisiadwy yn parhau i fod ar gael i genedlaethau'r dyfodol.

Disgwylir casglu ac archifo tua 6,000 o wefannau gan UKWAC - sy'n cynnwys Y Llyfrgell Brydeinig, Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth y Cynghorau Addysg Uwch a Phellach (JISC), Yr Archifau Gwladol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban ac Ymddiriedolaeth Wellcome – yn ystod cyfnod cychwynnol o ddwy flynedd.

Bydd aelodau'r Consortiwm yn sicrhau caniatâd perchnogion gwefannau er mwyn archifo safleoedd dethol, gan weithio gyda'i gilydd i edrych ar sut y gellir datblygu polisïau dewis cydnaws, ac ymchwilio i'r heriau technegol cymhleth sy'n rhan o gasglu ac archifo deunydd oddi ar y we.

Dewisir ac archifir safleoedd sy'n berthnasol i ddiddordebau pynciol a/neu barth pob aelod o'r consortiwm ar wahân. Er enghraifft, archifir safleoedd sy'n adlewyrchu diwylliant cenedlaethol a digwyddiadau sy'n hanesyddol bwysig gan y Llyfrgell Brydeinig. Gall y rhain gynnwys tudalennau gwe sy'n ffocysu ar ddigwyddiadau allweddol ym mywyd cenedlaethol Prydain, tudalennau gwe amgueddfeydd, e-draethodau, detholiad o flogiau er mwyn cefnogi deunydd ymchwilio a phrosiectau llenyddol a chreadigol gan Brydeinwyr. Cedwir cofnod o feddygaeth ar y we gan Wellcome tra bydd yr Archifau Gwladol yn ffocysu ar archifo deunydd dethol o chwe phrif glwstwr o adrannau'r llywodraeth. Cesglir ystod o ddeunydd sy'n adlewyrchu diwylliant a hanes Cymru a'r Alban gan Lyfrgelloedd Cenedlaethol y ddwy wlad hynny, a chedwir gwefannau sy'n cyd-fynd â phrosiectau TGCh blaenllaw ac arloesol yn sectorau Addysg Uwch a Phellach y DU gan JISC.

Caiff costau isadeiledd, megis meddalwedd, caledwedd a chostau datblygu a chefnogaeth barhaus, eu rhannu'n gyfartal rhwng aelodau'r Consortiwm. Bydd UKWAC yn defnyddio HTTrack – y gwe-ymlusgwr côd agored – er mwyn tynnu ffeiliau i mewn ar gyfer eu cadw. Datblygwyd a phrofwyd y feddalwedd a ddefnyddir ar gyfer y broses o archifo'r we – System Archifo Digidol PANDORA (PANDAS) – gan Lyfrgell Genedlaethol Awstralia a'i phartneriaid, eisoes, er mwyn iddynt archifo gwefannau Awstralia. Darperir mynediad at y rhain trwy PANDORA, Archif Gwe genedlaethol Awstralia (gweler: http://pandora.nla.gov.au/index.html). Gellir gosod PANDAS i dagio, casglu a pharatoi tudalennau ar gyfer eu harddangos yn gyhoeddus yn awtomatig, yn ogystal â rheoli cyfyngiadau priodol ar fynediad os cesglir tudalennau nad ydynt yn addas i'w harddangos yn gyhoeddus, o ganlyniad i resymau masnachol, diwylliannol neu breifatrwydd.

Dewisodd aelodau UKWAC ddefnyddio gwasanaethau Ymchwil Magus Cyf er mwyn ehangu meddalwedd PANDAS ar gyfer anghenion y DU, a darparu'r caledwedd cyfrannol a'r gefnogaeth dechnegol sydd ei angen arnynt.

Dywedodd David Thomas, Pennaeth Technoleg a'r Llywodraeth Yr Archifau Gwladol, "Mae gwefannau'n cynnig golwg unigryw ar ein byd politicaidd a chymdeithasol ni heddiw, o gyngor teithio gan gyrff llywodraethol i'r lluniau bydd cyplau sydd newydd briodi yn eu rhoi ar-lein. Gan gydweithio trwy UKWAC, mae'r Archifau Gwladol yn cymryd camau i sicrhau fod gwefannau'r llywodraeth yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Lynne Brindley, Cadeirydd Y Gynghrair Cadwraeth Ddigidol a Phrif Weithredwr y Llyfrgell Brydeinig: "Mae lansio UKWAC yn gam hanfodol wrth ein helpu i ddeall sgôp gwe'r DU, a sut medrwn ni ddechrau datblygu archif gwe genedlaethol ddethol ond defnyddiol. Bydd yn cael ei redeg ar sail wirfoddol i gychwyn, ond rydym yn rhagweld y bydd is-ddeddfwriaeth yn galluogi'r Llyfrgell Brydeinig – a Llyfrgelloedd Adneuo Cyfreithiol eraill – i gasglu deunydd oddi ar y we, yn ei bryd. Gallwn weld gwir gynnydd yn natblygiad polisïau dewis cydnaws trwy weithio gydag aelodau eraill UKWAC, gan ymchwilio i'r ffyrdd gorau o gasglu ac archifo deunydd o'r we a mireinio'n ffordd o weithio gyda'n gilydd."

Gweler http://www.webarchive.org.uk am fwy o wybodaeth
neu cysylltwch â Val McBurney yn Adran y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus y Llyfrgell Brydeinig. Ffôn: 020 7412 7112, ffacs: 020 7412 71668, e-bost: val.mcburney@bl.uk

Nodiadau ar gyfer golygyddion

  1. Cydbwyllgor o gyrff sy'n ariannu addysg uwch a phellach y DU yw JISC (Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth). Maent yn gyfrifol am gefnogi defnydd arloesol o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) er mwyn cefnogi dysgu, addysgu ac ymchwil. Fe'u hadwaenir orau am ddarparu rhwydwaith JANET, sef ystod o wasanaethau cynnwys, cefnogaeth a chyngor, yn ogystal â phortffolio o adnoddau o safon uchel. Bydd JISC yn dewis ystod o wefannau prosiectau a ariennir ganddynt o fewn Consortiwm Archifo'r We y DU, gan weithio o fewn y parth ac.uk gyda phartneriaid y consortiwm. Gellir gweld gwybodaeth am JISC, eu gwasanaethau a'u rhaglenni ar http://www.jisc.ac.uk/.
  2. Y Llyfrgell Brydeinig yw llyfrgell genedlaethol y Deyrnas Unedig, ac un o lyfrgelloedd mwyaf y byd. Mae ei gasgliad o dros 150 miliwn o eitemau yn cwmpasu gwareiddiad ysgrifenedig pob oes, pob iaith ysgrifenedig a phob agwedd o feddyliau dynol. Gall defnyddwyr, sy'n cynnwys cwmnïau diwydiannol ag ysgolheigion, gael mynediad at gasgliadau'r Llyfrgell trwy'r Ystafelloedd Darllen a'r gwasanaethau darparu dogfennau byd-eang, sy'n darparu dros 15,000 o ddogfennau i fwy nag 20,000 o gwsmeriaid mewn 111 o wledydd yn ddyddiol. Ceir gwybodaeth am wasanaethau a chasgliadau'r Llyfrgell ar wefan y Llyfrgell Brydeinig, sef http://www.bl.uk
  3. Elusen annibynnol sy'n ariannu ymchwil yw Ymddiriedolaeth Wellcome (http://www.wellcome.ac.uk). Fe'i sefydlwyd o ganlyniad i ewyllys Syr Henry Wellcome ym 1936. Bwriad yr Ymddiriedolaeth yw meithrin a hybu ymchwil er mwyn gwella iechyd dynol ac iechyd anifeiliaid. Adnodd i ddarparu mynediad at gofnod dogfennol meddyginiaeth yw Llyfrgell Wellcome. Mae Prosiect Archifo'r We yn un dull o drosi'r weledigaeth honno i'r oes ddigidol.
  4. Mae gan Yr Archifau Gwladol yn Kew, http://www.nationalarchives.gov.uk, un o gasgliadau archifol mwyaf y byd, gan bontio 1,000 o flynyddoedd o hanes Prydain, o Lyfr Domesday i bapurau mwyaf cyfredol y llywodraeth. Lansiwyd Archif Gwe Llywodraeth Ganolog y DU - sy'n gasgliad o rai o wefannau mwyaf poblogaidd y DU, gan gynnwys 10 Stryd Downing, Ymchwiliad Hutton a'r Swyddfa Dramor - ar y 24ain o Fedi 2003. Fe'u harchifir yn i gyd yn weddol gyson, a rhai mor aml ag unwaith yr wythnos. Bydd prosiect UKWAC yn galluogi'r Archifau Gwladol i gasglu ystod ehangach o wefannau'r llywodraeth gan ddefnyddio gwahanol dechnolegau yn ogystal â darparu mwy o hyblygrwydd. Gweler http://www.pro.gov.uk/webarchive/.
    Cysyllter â Swyddfa'r Wasg Yr Archifau Gwladol ar 020 8392 5277 ar gyfer ymholiadau, neu e-bostiwch press@nationalarchives.gov.uk
  5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw un o sefydliadau diwylliannol mwyaf blaenllaw Cymru. Mae'n ffynhonell dihafal o wybodaeth gofnodedig, gan ymddwyn fel cof y genedl trwy gadw gwybodaeth gofnodedig am Gymru ym mhob ffurf, a darparu mynediad ato. Mae'n sefydliad â bri rhyngwladol, gan gyfrannu at rwydwaith byd-eang o ddarparwyr gwybodaeth. Fel aelod o Gonsortiwm Archifo'r We y DU, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dewis gwefannau o bwysigrwydd Cymreig trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, ac unrhyw ieithoedd perthnasol eraill, gan greu casgliad a fydd yn gwasanaethu anghenion ymchwil y presennol a'r dyfodol. Gellir canfod gwybodaeth am Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar http://www.llgc.org.uk/.
  6. Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yw llyfrgell fwyaf y wlad honno, ac un o brif lyfrgelloedd ymchwil Ewrop. Mae'n gweithredu nid yn unig fel llyfrgell ymchwil gyffredinol, ond fel prif gadwrfa'r byd ar gyfer cofnod print a llawysgrifol o hanes a diwylliant yr Alban. Fel Llyfrgell Adnau Cyfreithiol ers 1710, mae'n gartref i dros wyth miliwn o eitemau printiedig a mwy na 250,000 o deitlau electronig. Ein nod, fel rhan o'n ymglymiad â'r Consortiwm, yw canolbwyntio ar safleoedd o ddiddordeb Albanaidd, gan ei drin fel estyniad o un o'n prif bwrpasau, "i greu, cadw a sicrhau mynediad at gasgliad cynhwysfawr o wybodaeth, hanes a diwylliant cofnodedig yr Alban, er lles trigolion yr Alban a gweddill y byd". Gweler http://www.nls.uk am fwy o wybodaeth.
  7. Arbenigwyr rheoli gwybodaeth a chynnwys y Rhyngrwyd yw Ymchwil Magus (http://www.magus-research.com). Maent wedi bod yn darparu gwasanaethau i gwmnïau Mynegai Can Cwmni'r FT, sefydliadau a chyrff byd-eang ers 1995, gan ennill clod am greu datrysiadau arloesol sy'n darparu cymorth i fusnesau fedru gwneud y gorau o dechnolegau datblygol.
    Darperir ystod eang o ddatrysiadau technoleg sy'n cynnwys prosiectau Rhyngrwyd a Mewnrwyd, o'u dyfeisio i'w gosodiad a thu hwnt, gan Magus. Mae ganddynt arbenigedd sy'n cwmpasu popeth o'r rhyngwyneb pen blaen a'r saernïaeth wybodaeth hyd at reolaeth cynnwys a systemau cronfeydd data. Yn ogystal â hyn, dyluniwyd cynhyrchion chwilio ac adalw, gwybodaeth busnes a chynhyrchion rhybuddio Magus i gynorthwyo corfforaethau sy'n llawn gwybodaeth wrth iddynt reoli eu defnydd o'r Rhyngrwyd.
  8. Sefydlu prosiect cydweithredol ar gyfer archifo'r We oedd un o brif argymelliadau astudiaeth dichondeb Wellcome/JISC. Gweler
    http://library.wellcome.ac.uk/node228.html neu
    http://www.jisc.ac.uk/uploaded_documents/archiving_feasibility.pdf am fwy o wybodaeth.



I fyny ˆ
© hawlfraint UKWAC - Cedwir pob hawl
Skip to side navigation