Skip to main content
Hafan yr Archif
Cysylltu â ni
Ynglŷn ag UKWAC
Ynglŷn â'r Archif
Newyddion
Dolenni
Map o'r Safle
 

Datganiad Preifatrwydd UKWAC

Ni chipir ac ni ddelir gwybodaeth bersonol gan wefan UKWAC yn awtomatig, oni bai am gofnod o gyfeiriad IP y defnyddiwr a gwybodaeth am y sesiwn, megis hyd yr ymweliad a'r math o borwr a ddefnyddiwyd. Cydnabyddir hyn gan weinydd y We. Cedwir yr wybodaeth ar gyfer gweinyddiaeth y system ac ar gyfer darparu ystadegau, a ddefnyddir gan UKWAC er mwyn gwerthuso'r defnydd a wneir o'r safle, yn unig.

Nid ydym yn defnyddio cwcis er mwyn casglu gwybodaeth am ddefnyddwyr.

Mae croeso ichi anfon eich adborth at Gonsortiwm Archifo'r We y DU. Defnyddir yr wybodaeth a ddarperir gennych, gan UKWAC, er mwyn clywed eich barn yn unig, ac, os yw'n briodol, ddanfon ateb atoch neu gysylltu â chi er mwyn cael eglurhad pellach. Ni throsglwyddir eich manylion i unrhyw unigolyn neu sefydliad y tu allan i Gonsortiwm Archifo'r We y DU, trwy ei roi, ei werthu neu ei fasnachu mewn unrhyw fodd arall, heb eich canaitâd chi.

Termau

Cwci - Darn o wybodaeth a anfonir at weinydd gwe gan borwr gwe. Cedwir yr wybodaeth gan y porwr, gan ei anfon yn ôl at y gweinydd bob tro y dychwel y porwr at y wefan. Gall y gweinydd ddefnyddio'r cwci i addasu'r dangosydd a ddanfonir at y defnyddiwr, neu gall gadw cofnod o'r gwahanol dudalennau a ddefnyddir gan yr unigolyn.

Cyfeiriad IP - Adwaenir y rhif unigryw a neilltuir i bob cyfrifiadur sydd wedi cysylltu âr Rhyngrwyd fel cyfeiriad 'Internet Protocol' (IP).

Porwr - Rhaglen feddalwedd a ddefnyddir ar gyfer chwilio a gweld gwahanol fathau o adnoddau ar y Rhyngrwyd, megis gwybodaeth ar wefan. Mae Microsoft Internet Explorer a Netscape Navigator yn enghreifftiau o borwyr.

UKWAC - Consortiwm Archifo'r We y Deyrnas Unedig (United Kingdom Web Archiving Consortium), chwe sefydliad sy'n cydweithio i archifo deunydd oddi ar y we yn y DU. Gweler www.webarchive.org.uk am fwy o wybodaeth.



I fyny ˆ
© hawlfraint UKWAC - Cedwir pob hawl
Skip to side navigation