|
||
|
Gwybodaeth i wefeistri a pherchnogion gwefannauPwy sy'n rhan o Gonsortiwm Archifo'r We y DU - UKWAC?Ymunodd nifer o sefydliadau allweddol y DU â'i gilydd i ffurfio Consortiwm (UKWAC), gyda'r nod o rannu'r costau, yr arbenigedd a'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer archifo gwefannau a ddewiswyd er mwyn darparu mynediad atynt yn y dyfodol. Cred y sefydliadau sy'n ffurfio'r Consortiwm hwn bod digon o gysondeb yn anghenion busnes archifo'r we i gynnal amgylchedd gweithredol ar gyfer y broses o archifo'r we. Ewch at http://www.webarchive.org.uk/ er mwyn cael mwy o wybodaeth am UKWAC. Mae'r sefydliadau sy'n ffurfio Consortiwm Archifo'r We y DU yn cynnwys Y Llyfrgell Brydeinig, Yr Archifau Gwladol, Ymddiriedolaeth Wellcome, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC). Sut mae'r Prosiect archifo'r We yn gweithio?Bydd pob aelod o'r consortiwm yn dewis a 'chipio' cynnwys sy'n berthnasol i'w pwnc a/neu eu parth nhw. Er enghraifft, bydd y Llyfrgell Brydeinig yn archifo safleoedd sy'n adlewyrchu diwylliant cenedlaethol a digwyddiadau sy'n hanesyddol bwysig. Gall y rhain gynnwys tudalennau gwe sy'n ffocysu ar ddigwyddiadau allweddol ym mywyd cenedlaethol Prydain, tudalennau gwe amgueddfeydd, e-draethodau, detholiad o flogiau er mwyn cefnogi deunydd ymchwilio a phrosiectau llenyddol a chreadigol gan Brydeinwyr. A yw hyn yn golygu y bydd UKWAC yn gwesteia fy ngwefan drosof?Na, chi fydd yn gyfrifol am westeia a chynnal eich gwefan fyw o hyd, yn union fel sy'n digwydd nawr. Oni fydd fy nefnyddwyr yn cymysgu rhwng y wefan fyw a'r wefan sydd wedi ei harchifo?Nid ydym yn credu y bydd hyn yn broblem. Nodwyd yn glir mai gwefannau wedi eu harchifo, nid rhai 'byw', a gynhwysir yn archif UKWAC, a darperir dolenni at eich gwefannau byw cyfredol, hefyd. Bydd holl ddefnyddwyr yr archif yn elwa o gael mynediad at ddeunydd nad sydd ar gael ar safleoedd byw bellach. Pam na all Google ddod o hyd i fy URL wedi imi ei deipio yn y bocs chwilio?Rydym wedi gwahardd peiriannau chwilio rhag chwilio cynnwys archif UKWAC yn fwriadol er mwyn cefnogi perchnogion safleoedd a sicrhau fod cyn lleied o ddryswch rhwng fersiynau 'byw' o safleoedd a fersiynau wedi eu harchifo ag sy'n bosibl. Cyfeirir defnyddwyr at safleoedd 'byw' wrth chwilio am wefannau, yn hytrach na 'hen' fersiwn neu fersiwn wedi ei archifo, bob tro. Sut mae'r archifo'n gweithio?Mae Consortiwm Archifo'r We y DU yn defnyddio meddalwedd a ddatblygwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Awstralia ac a ddefnyddiwyd i adeiladu eu Harchif Pandora - gweler http://Pandora.nla.gov.au. Dyma'r feddalwedd a ddefnyddir er mwyn rheoli'r broses o gasglu gwefannau. Mae'r feddalwedd yn gweithio mewn ffordd debyg i borydd, gan wneud ceisiadau am ffeiliau i weinydd. Bydd yn dilyn dolenni o fewn safle gan gasglu'r ffeiliau a ddaw ar eu traws. Gall gasglu safleoedd sy'n seiliedig ar gronfeydd data megis PHP neu ASP, ond ni fedrwn gasglu cynnwys cronfeydd data - y 'we ddofn' - megis catalogau llyfrgelloedd. Ni all y feddalwedd gasglu unrhyw ddeunydd a ddiogelir y tu ôl i gyfrinair, na chwaith 'dorri' neu 'ddatrys' cyfrineiriau. Beth fyddaf yn ei wneud wrth imi roi trwydded hawlfraint i UKWAC?Wrth roi trwydded hawlfraint i Gonsortiwm Archifo'r We y DU, rydych yn rhoi caniatâd i'r Consortiwm wneud copi o'ch gwefan, ei storio a darparu mynediad cyhoeddus ato mewn archif o wefannau ar weinydd sy'n eiddo i Gonsortiwm Archifo'r We y DU, a hynny am hyd y prosiect. Rydych hefyd yn rhoi caniatâd inni gymryd y camau angenrheidiol er myn cadw'ch gwefan fel rhan o gasgliadau parhaol y Llyfrgell os yw'r prosiect yn llwyddiannus, a darparu mynediad ato i'r cyhoedd nawr ac yn y dyfodol, trwy weinydd wedi ei westeia gan Gonsortiwm Archifo'r We y DU. Gall y broses hon gynnwys copïo ffeiliau i fformatau gwahanol er mwyn iddynt barhau i fod yn hygyrch wrth i galedwedd a meddalwedd newid yn y dyfodol. Beth yw'r drwydded?Yn ôl Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatent 1988, rhaid cael caniatâd yr awdur/cyhoeddwr er mwyn copïo cyhoeddiad (gan gynnwys gwefannau). Gan fod Consortiwm Archifo'r We y DU yn dymuno copïo mwy na chyfran resymol o'ch gwefan, sydd, yn ôl y gyfraith, yn gyhoeddiad, rhaid inni gael eich caniatâd. Rhaid inni gael eich awdurdodiad cyn darparu mynediad cyhoeddus at eich gwefan ar ôl ei archifo, hefyd. 'Rhoi trwydded' yw'r term cyfreithiol am roi caniatâ inni gopïo cyhoeddiad. Mae'r drwydded yn cynnwys y llythyr a anfonir atoch yn gofyn ichi roi trwydded hawlfraint i Gonsortiwm Archifo'r We y DU, ac, os ydych yn cytuno i'w roi, y drwydded hawlfraint wedi ei dychwelyd. A ydw i'n ildio'r hawlfraint dros fy ngwefan?Nac ydych. Chi fydd biau'r hawlfraint dros eich gwefan yn llawn o hyd, yn y fersiwn wedi ei archifo yn archif y Consortiwm yn ogystal â'r fersiwn fyw. Byddai'n rhaid i unrhyw drydydd parti sydd am gopïo mwy na chyfran resymol o'r safle (yn ôl Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatent 1988), naill ai o'r fersiwn fyw neu o'r fersiwn wedi ei archifo, gysylltu â chi er mwyn cael eich caniatâd. A yw Archif UKWAC yn cael ei redeg ar sail fasnachol?Na. Ni fydd rhaid talu i weld yr un o wefannau archif UKWAC, ac nid oes tâl am gael cynnwys eich gwefan yn archif UKWAC, chwaith. Mae fy safle'n cynnwys dolenni at wefannau eraill sy'n perthyn i gyrff eraill. A fydd y safleoedd hyn yn cael eu harchifo gyda fy un i?Na fyddant. Ni fydd unrhyw ddolenni sy'n symud y tu allan i'ch safle chi yn cael eu harchifo. Mae fy safle'n cynnwys adran breifat sy'n gofyn defnyddio ID defnyddiwr a chyfrinair. A gaiff hwn ei archifo?Na chaiff. Ni archifir ardaloedd diogel fel hyn fel arfer. Fodd bynnag, medrwch roi ID defnyddiwr a chyfrinair i UKWAC er mwyn galluogi archifo'r ardaloedd hyn, os dymunwch. Mae croeso ichi drafod hyn gyda ni. Pa mor aml yr archifir fy safle?Penderfynir pa mor aml y cipir pob gwefan yn unigol ar sail patrwm y cyhoeddiad a sefydlogrwydd y safle. Sut caiff fy safle ei arddangos ar ôl ei archifo?Ewch at http://www.webarchive.org.uker mwyn gweld enghraifft o sut y dangosir eich safle o fewn yr archif. Bydd defnyddiwr sy'n mynd at yr archif i weld y fersiwn o'ch gwefan chi yn gweld tudalen deitl yn gyntaf. Darperir gwybodaeth ragarweiniol ynglŷn 7acirc;'r teitl yma, gan gynnwys dolen at eich safle fyw, datganiad cyffredinol ynglŷn â hawlfraint a dolen at eich datganiad hawlfraint chi os oes un ar gael. Gellid gosod unrhyw fesurau diogelwch angenrheidiol, hefyd, petai angen cyfyngu ar fynediad at eich safle, (os mai teitl masnachol ydyw, er enghraifft, neu os oes cynnwys sensitif ar y safle). Medrwn drafod hyn ymhellach gyda pherchnogion hawlfraint. Â phwy y dylwn i gysylltu er mwyn gofyn cwestiynau?Mae croeso ichi gysylltu â Chonsortiwm Archifo'r We y DU unrhyw bryd, gan ddefnyddio'n Ffurflen Adborth. Rwy'n cynhyrchu gwefan, a fedra' i awgrymu ei ychwanegu at Archif UKWAC?Medrwch. Mae croeso ichi ddanfon awgrymiadau atom. Gallwch ddefnyddio'n Ffurflen Argymell er mwyn awgrymu gwefannau. Ni fyddwn yn derbyn pob gwefan a anfonir atom ar gyfer ei archifo, o reidrwydd, ond byddwn yn falch o gael gwybod am eich safle beth bynnag. A fedra' i awgrymu gwefannau a gynhyrchwyd gan unigolion neu gyrff eraill?Medrwch, ond bydd rhaid i ni gael caniatâd gan grewyr neu gyhoeddwyr y gwefannau hynny cyn i ni fedru eu harchifo. |
||||||||
|